Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 21 Medi 2017
Amser:
09.35 -
14.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4420
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Simon Thomas AC (Cadeirydd) Mike Hedges AC Eluned Morgan AC David Rees AC Steffan Lewis AC Nick Ramsay AC |
Tystion: |
Denise Inger, SNAP Cymru Caroline Rawson, SNAP Cymru Alun Davies AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes Tania Nicholson, Llywodraeth Cymru Emma Williams, Llywodraeth Cymru Charlie Thomas, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Bethan Davies (Clerc) Catherine Hunt (Ail Glerc) Georgina Owen (Dirprwy Glerc) Martin Jennings (Ymchwilydd) Owen Holzinger (Ymchwilydd) Ben Harris (Cynghorydd Cyfreithiol) Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Neil Hamilton AC.
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
3.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Denise Inger, Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr SNAP Cymru, a Caroline Rawson, Cyfarwyddwr Cynorthwyol SNAP Cymru ynghylch y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru).
4.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Alun Davies AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes; Emma Williams, Uwch Swyddog Cyfrifol, Llywodraeth Cymru; Tania Nicholson, Pennaeth y Rhaglen Ddeddfwriaethol Anghenion Dysgu Ychwanegol, Llywodraeth Cymru; a Charlie Thomas, Pennaeth Trawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), Llywodraeth Cymru ynghylch y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru).
4.2 Cytunodd y Gweinidog i roi dadansoddiad o'r 'costau suddedig' a dynnwyd o'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol diwygiedig.
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
7.1 Gohiriwyd yr eitem tan ddydd Mercher 27 Medi 2017.
8.1 Trafododd Pwyllgor bapur ynghylch recriwtio Archwilydd Cyffredinol Cymru.
9.1 Cyflwynodd Alex Brazier, Aelod Cyswllt o Global Partners Governance, sesiwn hyfforddi ynghylch craffu ar y gyllideb: ymgymryd â gwaith craffu ar y gyllideb a goruchwylio ariannol; datblygu arfer da a gwneud gwahaniaeth.